Ynglŷn â Gorsaf Bŵer Hafren
Mae Gorsaf Bŵer Hafren wedi ei lleoli yn Aber-wysg, ger Casnewydd yn Ne Cymru. Dechreuodd gynhyrchu pŵer yn fasnachol ym mis Tachwedd 2010 pan ddechreuwyd defnyddio tyrbinau nwy ac ager dwbl, a bydd yn cynorthwyo gyda pharhad cyflenwad wrth i orsafoedd pŵer hŷn gael eu datgomisiynu.

Mae gan Gorsaf Bŵer Hafren y gallu i greu hyd at 824 megawat (MW) net o drydan - digon i fodloni anghenion pŵer cyfartalog tua 1.5 miliwn o gartrefi, neu â’r gallu i fodloni dros 1 y cant o’r galw am drydan ar adegau brig yn y DU ar ei ben ei hun.
Mae Gorsaf Bŵer Hafren yn defnyddio technoleg tyrbin nwy cylch cyfun (CCGT), sy’n ei gwneud yn un o’r gorsafoedd pŵer mwyaf datblygedig yn ei dosbarth. Gan ddefnyddio’r offer cynhyrchu ynni mwyaf modern sydd ar gael, mae gan Orsaf Bŵer Hafren effeithlonrwydd thermal o tua 58 y cant, gan ei gwneud yn un o’r gorsafoedd pŵer nwy naturiol o’i bath mwyaf effeithiol yn y DU.
Mae’r dechnoleg yn cynrychioli gwelliant enfawr ar berfformiad gorsafoedd pŵer o’r hen fath. O ganlyniad, mae’n cynhyrchu llawer llai o allyriadau am bob uned o ynni a gynhyrchir, ac felly’n lleihau’r effaith ar yr amgylchedd i’r isaf posibl.
Cymydog da
Mae Gorsaf Bŵer Hafren wedi ymrwymo i fod yn gymydog da ar bob cam o fywyd yr orsaf. Rhoddwyd ystyriaeth i effeithiau amgylcheddol tebygol yr orsaf bŵer, o’i chodi hyd ei datgomisiynu terfynol, pan geisiwyd caniatâd cynllunio. Roedd rhan o’r cais yn cynnwys Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA) trylwyr, i sicrhau bod Gorsaf Bŵer Hafren yn parchu’r amgylchedd.
Lleolwyd yr orsaf bŵer newydd yn fwriadol oddi wrth drigolion cymdogol, ar ben pellaf un y safle sydd ar gael. Mae’n defnyddio’r mynediad ffordd a rheilffordd presennol i’r safle, felly ni fu angen seilwaith trafnidiaeth newydd. Yn wir, cafodd peth deunyddiau ac eitemau mawr a oedd eu hangen ar gyfer y gwaith adeiladu eu cludo i’r safle ar gwch ar hyd y foryd, er mwyn lleihau’r effaith ar y ffyrdd a’r bobl leol.
Parhad cyflenwad
Mae’r Orsaf Bŵer Hafren newydd yn parhau hanes hir o gynhyrchu pŵer yn Ne Cymru. Fei’i hadeiladwyd ar safle Aber-wysg ‘A’, hen orsaf bŵer glo a ddymchwelwyd yn 2002. Rhoddwyd caniatâd i ddechrau ar yr orsaf bŵer newydd yn 2007, a dechreuodd y gwaith adeiladu yn yr un flwyddyn. Caffaleodd DONG Energy, cynhyrchydd ynni mwyaf blaenllaw Denmarc, y prosiect gan Welsh Power yn 2009.
Mae dros 1,200 o bobl wedi gweithio ar gam adeiladu’r prosiect. Erbyn hyn mae staff o tua 40 o bobl yn rheoli gweithrediad o ddydd i ddydd Gorsaf Bŵer Hafren.
Gwybodaeth Dechnegol
- Dau fodiwl CCGT siafft sengl yn cyfateb i 824MW o gynnyrch
- Cyddwysyddion wedi’u hoeri ag aer
- Cysylltiad cyfagos i rwydwaith 275kV
- Defnyddio rhwydwaith nwy Wales and West Utilities (drwy estyniad)
- Defnyddio ôl-troed gorsaf bŵer Aber-wysg A a ddymchwelwyd
- Mabwysiadu athroniaeth ‘dim gollwng’
- Galw uchel am bŵer yn yr ardal
- Effaith lleiaf posibl ar y gymuned yn ystod ei gweithrediad
Ewch am daith o amgylch y gwaith
Bydd y fideo isod yn dangos cynllun y gwaith. (in English)