Yr Amgylchedd
Mae Gorsaf Bŵer Hafren yn defnyddio’r offer cynhyrchu ynni mwyaf datblygedig sydd ar gael er mwyn sicrhau defnydd effeithlon o’r nwy naturiol, sy’n ei gwneud yn un o’r gorsafoedd pŵer mwyaf effeithlon yn y byd gyda ffocws cryf ar yr amgylchedd ac effeithiolrwydd cost.
Hefyd, mae defnydd nwy naturiol yn golygu y caiff yr effaith amgylcheddol ei leihau i’r isaf posibl. Gan danio nwy naturiol mae’r orsaf bŵer yn sicrhau nad oes gronynnau, lludw na symiau sylweddol o sylffwr yn cael eu cynhyrchu yn ystod y gweithrediad. Diolch i’r dechnoleg llosgi ddatblygedig, mae lefelau allyriadau nitrogen ocsid yr orsaf bŵer yn isel iawn.

Ar sgriniau arddangos mawr modern yn yr ystafell reoli gall y gweithredwyr cymwysedig fonitro’r holl ddata amgylcheddol ac optimeiddio’r unedau i’w gweithrediad amgylcheddol gorau. Caiff yr holl wybodaeth amgylcheddol ei storio er mwyn cofnodi bod yr orsaf bŵer o fewn y terfyn amgylcheddol a osodwyd ar gyfer ei gweithrediad.
Cymydog Cyfrifol
Fel cymydog cyfrifol mae Gorsaf Bŵer Hafren wedi ymrwymo i weithredu gorsaf bŵer sy’n parchu’r amgylchedd. Fel rhan o’r broses gynllunio comisiynwyd Asesiad Effaith Amgylcheddol (AEA).
Cliciwch yma i weld crynodeb annhechnegol o’r AEA (pdf). (in English).
Effeithiau Posibl
Roedd yr adroddiad AEA yn drylwyr a chynhwysfawr. Ceir crynodeb o rai meysydd allweddol o’r effaith posibl yr aethpwyd i’r afael â hwy yma.

Dŵr
Mae llawer o orsafoedd pŵer yn defnyddio dŵr ar gyfer oeri. Er mwyn osgoi unrhyw effaith ar yr Afon Wysg, mae Gorsaf Bŵer Hafren yn defnyddio system oeri sy’n defnyddio aer. Golyga hyn nad oes angen cymryd unrhyw ddŵr o’r afon. Mae’r holl ddŵr a ddefnyddir yn y gwaith yn dod o’r prif gyflenwad. Nid oes unrhyw arllwys i’r cyrsiau dŵr lleol: bydd yr holl ddŵr gwastraff (yn cynnwys dŵr glaw ffo) yn mynd i’r system garthffosiaeth.
Aer
Gyda phob math o hylosgiad ceir allyriadau nwy. Mae gorsafoedd pŵer nwy, fel Gorsaf Bŵer Hafren, yn cynhyrchu swm llawer is o allyriadau o gymharu â gorsafoedd tanwydd ffosil traddodiadol. Er enghraifft, mae cynhyrchu nwy yn creu 50 y cant yn llai o garbon deuocsid - un o’r prif nwyon tŷ gwydr - na gorsaf bŵer glo. Mae hefyd yn cynhyrchu llai o ocsid nitrus a llygrwyr posibl eraill. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i Orsaf Bŵer Hafren gael trwyddedau priodol ar gyfer allyriadau, a chaiff ei rheoleiddio’n dynn gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Effaith Weledol
Mae’r adeiladau Gorsaf Bŵer Hafren yn llawer is na rhai gorsaf bŵer Aber-wysg ‘A’ wreiddiol, gan olygu llai o effaith ar y nenlen. Gwneir gwaith tirlunio ychwanegol er mwyn lleihau ymhellach effaith weledol yr orsaf bŵer wrth iddi agosáu at ei chwblhau.
Cysylltiad i’r Grid
Nid oes angen dim ceblau na pheilonau newydd uwchben er mwyn cysylltu'r orsaf bŵer newydd i’r grid trydan. Caiff Gorsaf Bŵer Hafren ei chysylltu drwy’r is-orsaf bresennol ar y safle. Caiff yr is-orsaf, sy’n eiddo i’r Grid Cenedlaethol, ei ehangu fel rhan o’i rhaglen ddatblygu bresennol.
Cyflenwad Nwy
Cyflenwir nwy i Orsaf Bŵer Hafren drwy adran newydd o biben pwysedd uchel. Mae hon yn dechrau yn Marshfield, tua 6km i'r gorllewin o’r orsaf bŵer. Mae’n rhedeg dan ddaear ar ei hyd, gymaint â 30 metr o dan yr wyneb mewn rhai mannau. Gweithredir y biben hon gan Severn Gas Transportation Ltd (SGTL) ac fe’i gosodwyd gan ddefnyddio techneg a elwir yn Drilio Cyfeiriadol Llorweddol (HDD), er mwyn lleihau’r tarfu ar y gymuned leol, gweithgareddau ffermio a chynefinoedd bywyd gwyllt.
Mae rhagor o wybodaeth am biben Marshfield i Aber-wysg, yn cynnwys map, ar gael i’w lawrlwytho yma.