Cwestiynau a ofynnir yn aml
-
Pryd y cwblhawyd yr orsaf bŵer?
-
Faint o bŵer mae hin ei gynhyrchu?
-
Faint o bobl mae’n ei gyflogi?
-
Pam fod angen gorsaf bŵer newydd arnom?
-
Pam ei bod wedi ei lleoli ger Casnewydd?
-
Pwy yw DONG Energy?
-
Pwy yw Siemens plc?
1 Pryd y cwblhawyd yr orsaf bŵer?
Daeth Gorsaf Bŵer Hafren yn llwyr weithredol ym mis Tachwedd 2010, ychydig yn gynt na’r amserlen ar gyfer y gwaith adeiladu. Mae ei datblygiad wedi cymryd dwy flynedd ac wedi cynnwys cyfnod helaeth o brofi a chomisiynu, a ddechreuodd ym mis Mai 2010 ac a daeth i ben yn nhymor yr Hydref.
2 Faint o bŵer mae hi’n ei gynhyrchu?
Ar adegau brig gall Gorsaf Bŵer Hafren gyflenwi hyd at 824 megawat (MW) i’r grid. Mae hyn yn ddigon o drydan i fodloni galw cyfartalog hyd at 1.5 miliwn o gartrefi. Gan ddefnyddio ei ddau dyrbin nwy annibynnol, gellir amrywio’r cynhyrchu i fodloni’r galw.
3 Faint o bobl mae’n ei gyflogi?
Cynhelir gweithrediadau o ddydd i ddydd yng Ngorsaf Bŵer Hafren gan dîm o ddeugain o bobl. Pan gaeir tyrbin i lawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw, bydd rhagor o bobl yn gweithio ar y safle. Siemens plc enillodd y contract gwreiddiol gan Welsh Power i adeiladu’r orsaf bŵer newydd. Yn ystod y cam adeiladu bu dros 1000 o bobl yn gweithio ar y prosiect.
4 Pam fod angen gorsaf bŵer newydd arnom?
Mae dau brif reswm pam fod angen gorsafoedd pŵer newydd.
Yn gyntaf, nid yw’r galw am drydan yn y DU wedi lleihau’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn er gwaethaf y gwahanol fentrau effeithlonrwydd ynni ac anogaeth gan y Llywodraeth a grwpiau eraill. Cyfradd arferol ar gyfer defnydd trydan yn y DU yn gyfan yw tua 50 gigawat (GW), ac mae’r rhagamcaniadau ‘diwrnod oeraf’ yn awgrymu y gallai hyn godi i tua 70 GW. Mae arbenigwyr, megis rheoleiddiwr y diwydiant, Ofgem, yn rhagfynegi posibilrwydd o ddiffyg yn y gallu cynhyrchu o fewn y pedair i bum mlynedd nesaf. Mae’r amserlen hon yn cyd-daro â nifer o orsafoedd pŵer presennol y DU yn cyrraedd diwedd eu bywyd gweithio, felly mae angen datblygu gorsafoedd pŵer yn eu lle nawr.
Yn ail, mae angen lleihau allyriadau sy’n cyfrannu at newid hinsawdd. Yn draddodiadol mae cynhyrchu pŵer confensiynol drwy danwydd ffosil wedi creu symiau mawr o nwyon tŷ gwydr, megis carbon deuocsid a nitrogen ocsid. Fodd bynnag, mae technoleg fodern mewn gorsafoedd pŵer nwy wedi gwneud cynhyrchu pŵer yn llawer mwy effeithlon ac mae wedi lleihau allyriadau yn sylweddol. Drwy ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, Gorsaf Bŵer Hafren yw un o’r gorsafoedd pŵer nwy mwyaf effeithlon yn y DU.
5 Pam ei bod wedi ei lleoli ger Casnewydd?
Mae Aber-wysg wedi bod yn safle cynhyrchu trydan ers y 1950au, pan adeiladwyd gorsafoedd pŵer glo Aber-wysg ‘A’ ac Aber-wysg ‘B’. Prynwyd Aber-wysg ‘B’ gan Scottish and Southern Enegry (SSE) ac fe’i hailwampiwyd yn 2002. Yn yr un flwyddyn datgomisiynwyd a dymchwelwyd Aber-wysg ‘A’. Dechreuwyd ddatblygu gorsaf bŵer newydd mewn rhan nas defnyddir o safle Aber-wysg yn 2007.

Mae Gorsaf Bŵer Hafren yn orsaf nwy, gyda dwy linell gynhyrchu trydan Tyrbin Nwy Cylch Cyfun (CCGT) annibynnol.
Dewiswyd y safle yn rhannol oherwydd y cysylltiadau ffordd a rheilffordd sy’n bodoli’n barod, ac am ei fod yn agos i'r afon. Er mwyn lleihau’r effaith ar y rhwydwaith ffyrdd lleol yn ystod y gwaith adeiladu, cludwyd peth offer mawr a thrwm ar gwch. Mae ailddatblygu’r safle ‘tir llwyd’ hwn hefyd wedi golygu na ddefnyddiwyd safle maes glas at ddibenion diwydiannol.
6 Pwy yw DONG Energy?
DONG Energy sy’n berchen ar Orsaf Bŵer Hafren. Caffaelwyd y prosiect oddi wrth Welsh Power yn 2009.
DONG Energy yw un o’r grwpiau ynni mwyaf blaenllaw yng Ngogledd Ewrop. Gyda’i bencadlys yn Nenmarc, mae, DONG Energy yn prynu, cynhyrchu, dosbarthu a masnachu ynni a chynhyrchion cysylltiedig. Yn ychwanegol at ddatblygu gorsafoedd pŵer confensiynol y genhedlaeth newydd, mae DONG Energy wedi ymrwymo i ddulliau adnewyddadwy, yn cynnwys ynni gwynt.
Yn rhyngwladol, mae DONG Energy yn cyflogi tua 6,000 o bobl. Refeniw'r cwmni yn 2009 oedd tua 6.6 biliwn Ewro.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.dongenergy.com.
7 Pwy yw Siemens plc?
Siemens plc sy’n rheoli dyluniad, peirianneg, gwaith adeiladu, comisiynu, profi a gweithredu Gorsaf Bŵer Hafren.
Sefydlwyd Siemens plc yn y DU dros 165 o flynyddoedd yn ôl, ac erbyn hyn mae’n gwmni gwasanaethau peirianneg a thechnoleg blaenllaw yn fyd-eang. Mae Siemens yn gweithredu yn sectorau allweddol ynni, diwydiant a gofal iechyd. Mae’r cwmni’n cyflogi rhagor na 18,000 o bobl yn y DU yn unig. Mae pencadlys byd-eang Siemens’ yn yr Almaen (Erlangen).